Mae QWFC yn ardystio nifer o ffermydd llaeth yng Nghymru. Mae aseswyr QWFC yn cynnal yr asesiadau hyn yn erbyn Cynllun Gwarant Fferm Laeth y Tractor Coch, a ddatblygwyd gan y diwydiant, sy'n ofyniad i lawer o broseswyr llaeth a manwerthwyr.
Gall QWFC gyfuno’r asesiadau cynllun llaeth â’r Cynllun Gwarant Fferm Da Byw (FAWL) Cig Eidion a Chig Oen ar gyfer ei aelodau yng Nghymru, sy’n sicrhau bod asesiadau’n cael eu cwblhau’n effeithlon.
Dyma grynodeb o'r hyn y mae'r Cynllun Llaeth yn ei gwmpasu yn ei safonau:-
- Cynhyrchu Llaeth a Storio
- Olrhain a Chywirdeb
- Iechyd a Lles Anifeiliaid
- Bwyd a Dŵr
- Tai Gwarchod a Chyfleusterau Trin
- Meddyginiaethau Anifeiliaid a Bioddiogelwch
- Magu Lloi
- Damweiniau a Stoc wedi marw
- Cludo Da Byw
- Diogelu’r Amgylchedd a Rheoli Halogiad
- Staff a Chontractwyr
- Dogfennau a Gweithdrefnau
- Rheoli Fermin
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r cynllun a’i safonau cysylltiedig, cliciwch yma.